< Back to Press Releases

Wales proving great location for OysterWorld as expansion project gets underway

Embargo:00:01 Wednesday February 19

OysterWorld – the computer gaming company that opened a development centre in Wales last year – is already expanding and investing £2.5m in a new project that with Welsh Government support will create 25 new jobs.

This latest investment means that by 2017  the company will have created at least 85 well paid graduate level jobs at its Treforest centre, near Pontypridd.

 The Welsh Government is providing £415,000 in business finance to help bring a new games development project to Wales and create new jobs.

 Funding support will enable OysterWorld to buy back the complete intellectual property rights for their Hidden Object Puzzle Adventure games and bring production from Poland to Wales. It is setting up a new team over the next 18 months to develop and produce the games.

 Economy Minister Edwina Hart said:” I am delighted to support this expansion which will not only create high quality jobs but help build a strong gaming sector in Wales and develop a substantial skills base.

 “Gaming development is a fast growing sector within  creative industries and this project supports our sector strategy to create permanent quality jobs and help companies build up their IP portfolio. It also brings a popular, established genre of game to Wales for worldwide export.”

 Phil Terrett, Chief Operating Officer of OysterWorld said:  "The support of the Welsh Government has been instrumental in enabling us to buy back all the rights to these games and bring production to Wales. We are actively working with Welsh universities to recruit local talent and this project will provide opportunities for art and design students, as well as programming students.

 “OysterWorld will now be amongst the first to pilot development of this genre in the region, which will further raise the profile of the Welsh games development community. The Hidden Object games genre is particularly exciting because the games themselves are accessible to mainstream audiences, rather than exclusive to core gamers. The gameplay is simple enough to dive into, and the story-telling is what keeps people coming back for more.

 “We have been more than pleased with the calibre of people we have been able to recruit since we opened our development, marketing and R&D centre in Wales which reinforces our belief that Wales is a great location for us to expand our business.”

 OysterWorld announced in June 2013 it was to open a new development centre in Wales with £1m business finance from the Welsh Government to create 60 jobs over three years. It has already created 20 jobs which is ahead of their expected schedule.

OysterWorld’s management team have, between them, 75 years of experience in running successful games development/publishing businesses. They intend to grow OysterWorld into a major force in development, publishing and electronic distribution of interactive entertainment software and online content services.

Ends 

Cymru’n lleoliad gwych ar gyfer OysterWorld wrth i’r cwmni ehangu

Mae OysterWorld - y cwmni gemau cyfrifiadurol a agorodd ganolfan ddatblygu yng Nghymru'r llynedd - eisoes yn ehangu ac yn buddsoddi £2.5m mewn prosiect newydd a fydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn creu 25 o swyddi newydd.

Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn golygu y bydd y cwmni wedi creu o leiaf 85 o swyddi yn ei ganolfan yn Nhrefforest, ger Pontypridd, erbyn 2017, a’r rheiny’n swyddi lefel graddedigion sy’n talu’n dda.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £415,000 o gyllid busnes i helpu i ddenu prosiect datblygu gemau newydd i Gymru gan greu’r swyddi newydd.

Bydd y cymorth ariannol yn galluogi OysterWorld i brynu’r hawliau eiddo deallusol yn ôl ar eu gemau datrys posau a chwilio am wrthrychau cudd a symud y gwaith o’u cynhyrchu o Wlad Pwyl i Gymru. Dros yr 18 mis nesaf, bydd y cwmni’n sefydlu tîm i ddatblygu a chynhyrchu’r gemau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: ”Rwy’n falch iawn o gefnogi’r ehangiad hwn. Bydd yn creu swyddi safonol iawn a bydd yn gam tuag at ddatblygu sector gemau cyfrifiadurol cryf yng Nghymru a gweithlu sydd â’r sgiliau priodol.

“Mae datblygu gemau yn sector yn y diwydiannau creadigol sy’n tyfu’n gyflym ac mae’r prosiect hwn yn cefnogi ein strategaeth i greu swyddi parhaol o safon ac i helpu cwmnïau i ddatblygu eu portffolios eiddo deallusol. Mae hefyd yn dod â math poblogaidd o gêm gyfrifiadurol i Gymru er mwyn allforio i’r byd.”

Dywedodd Phil Terrett, Prif Swyddog Gweithredol OysterWorld:  "Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig i’n galluogi ni i brynu’r hawliau i’r gemau hyn yn ôl a symud y gwaith o’u cynhyrchu i Gymru. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion Cymru i recriwtio talent leol a bydd y prosiect hwn yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr celf a dylunio, yn ogystal â myfyrwyr rhaglennu cyfrifiadurol.

“Bydd OysterWorld yn awr ar flaen y gad o ran datblygu’r math hwn o gemau a fydd yn codi proffil y gymuned datblygu gemau yng Nghymru ymhellach. Mae’r gemau ‘Gwrthrych Cudd’ yn sector cyffrous iawn gan fod y gemau’n hygyrch i gynulleidfaoedd prif ffrwd, yn hytrach na’r craidd caled o chwaraewyr gemau cyfrifiadurol.  Mae’r gemau’n ddigon syml i’w ddefnyddio ar unwaith ac mae’r straeon yn denu pobl yn ôl dro ar ôl tro.

“Rydyn ni wedi bod yn falch iawn gyda safon y bobl yr ydym wedi eu recriwtio ers agor ein canolfan ymchwil a datblygu a marchnata yng Nghymru. Mae hyn yn ategu’n cred fod Cymru’n lleoliad gwych i ni ehangu ein busnes.”

Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd OysterWorld y byddai’n agor canolfan ddatblygu newydd yng Nghymru gyda chyllid busnes gwerth dros £1m gan Lywodraeth Cymru gan greu 60 o swyddi dros dair blynedd. Mae eisoes wedi creu 20 o’r swyddi, a hynny’n gynt na’r disgwyl.

Rhyngddynt, mae gan dîm rheoli OysterWorld 75 mlynedd o brofiad o redeg busnesau datblygu / cyhoeddi gemau cyfrifiadurol. Y nod yw datblygu OysterWorld i fod yn gwmni pwysig ym maes datblygu a chyhoeddi meddalwedd adloniant rhyngweithiol a gwasanaethau cynnwys ar-lein. 

Diwedd

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.

----------------------------

http://www.bbc.co.uk

This e-mail (and any attachments) is confidential and may contain personal views which are not the views of the BBC unless specifically stated.

If you have received it in error, please delete it from your system.

Do not use, copy or disclose the information in any way nor act in reliance on it and notify the sender immediately.

Please note that the BBC monitors e-mails sent or received.

Further communication will signify your consent to this.

---------------------

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.

 

Games Press

Games Press is the leading online resource for games journalists. Used daily by magazines, newspapers, TV, radio, online media and retailers worldwide, it offers a vast, constantly updated archive of press releases and assets, and is the simplest and most cost-effective way for PR professionals to reach the widest possible audience. Registration for the site and the Games Press email digest is available, to the trade only, at www.gamespress.com